Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Theatr y Stiwt, Wrecsam |
|
|
|||
|
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 2 Gorffennaf 2012 |
|
|
|||
|
|
|
||||
Amser: |
10:00 - 11:50 |
|
|
|||
|
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_700000_02_07_2012&t=0&l=cy |
|
|||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion Cryno: |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Bethan Jenkins Joyce Watson |
||||
|
|
|
||||
|
|
|
||||
Tystion: |
|
Poppy Thomas, Coleg Llandrillo Kayleigh Stone, Coleg Llandrillo Jenny Taylor, Coleg Llandrillo Richard Williams, Coleg Llandrillo Darren Millar Myrddin Davies, Stiwt Theatre Liz Doyland, CAIS cyf Clive Wolfendale, CAIS cyf |
||||
|
|
|
||||
|
|
|
||||
Staff y Pwyllgor: |
|
Abigail Phillips (Clerc) Sarita Marshall (Dirprwy Glerc) |
||||
|
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2. P-04-361 Pas bws am ddim i fyfyrwyr o dan 25 oed sydd mewn addysg llawn amser
2.1P-04-361 Pas bws am ddim i fyfyrwyr o dan 25 oed sydd mewn addysg llawn amser – Sesiwn dystiolaeth lafar
Atebodd y myfyrwyr gwestiynau gan y Pwyllgor.
Cytunodd y myfyrwyr i rannu eu cynigion ar gyfer ariannu’r pasys bws am ddim, yn ogystal â’r arolwg a wnaethpwyd ar y cynnig.
2.2P-04-361 Pas bws am ddim i fyfyrwyr o dan 25 oed sydd mewn addysg llawn amser – Ystyried y dystiolaeth
Cytunodd y Pwyllgor i:
Ystyried y ddeiseb unwaith et oar ôl i’r wybodaeth y gwnaethpwyd cais amdani ddod i law;
Ysgrifennu at Leighton Andrews gyda’r wybodaeth honno.
3. P-04-381 Adfer Ysbyty Gogledd Cymru
3.1P-04-381 Adfer Ysbyty Gogledd Cymru - Sesiwn dystiolaeth lafar
Atebodd y tystion gwestiynau gan y Pwyllgor.
3.2P-04-381 Adfer Ysbyty Gogledd Cymru - Ystyried y dystiolaeth lafar
4. Deisebau newydd
4.1P-04-402 Gweddïau Cyngor
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i:
Gael cyngor cyfreithiol am y mater a’i ystyried unwaith eto yn y cyfarfod nesaf;
Ysgrifennu at y Gweinidog am y mater gan amgâu’r wybodaeth a ddaeth i law.
4.2P-04-403 Achub Plas Cwrt yn Dre/ Hen Senedd-Dy Dolgellau
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i:
Ysgrifennu at y Gweinidog am bwnc y ddeiseb;
Cyfeirio’r deisebydd at y Bil Treftadaeth y bydd y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn ei gyflwyno a’u hannog i gyfrannu at y broses honno.
4.3P-04-404 Awyrennau Di-Beilot Aberporth
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog am y mater.
4.4P-04-405 Llawysgrif ganoloesol o Gyfreithiau Hywel Dda
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf.
Nododd Bethan Jenkins ei bod wedi cefnogi pwnc y ddeiseb yn gyhoeddus.
Cytunodd y Pwyllgor i gymryd camau dilynol i lythyr y Cadeirydd at y Gweinidog am y pwnc.
4.5P-04-406 Yn erbyn Safle yng Ngogledd Cymru yn y Cynllun Parthau Cadwraeth Morol
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i:
Ysgrifennu at y Gweinidog am bwnc y ddeiseb;
Annog y deisebwyr i gyfrannu at yr ymgynghoriad ar y cynigion ar gyfer y parth cadwraeth morol.
5. Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
5.1P-04-335 Sefydlu Tîm Criced Cenedlaethol i Gymru
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon a chytunodd i:
Gyfeirio’r mater at y Grŵp Trawsbleidiol ar Chwaraeon;
Trefnu dadl yn y Cyfarfod Llawn am y pwnc ac yna cau’r ddeiseb.
5.2P-03-085 Meddygfeydd yn Sir y Fflint
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon a chytunodd i:
Ysgrifennu crynhoad o gamau’r Pwyllgor a’i anfon ymlaen at yr Aelodau Cynulliad etholaethol a rhanbarthol perthnasol, gan nodi cymorth y Pwyllgor a gofyn bod Aelodau yn parhau i gefnogi’r deisebwyr ar lefel leol;
Cau’r ddeiseb.
5.3P-03-221 Gwell triniaeth traed drwy'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon a chytunodd i:
Trosglwyddo sylwadau’r deisebydd i’r Gweinidog;
Yna cau’r ddeiseb.
5.4P-03-222 Y Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon a chytunodd i ysgrifennu at y deisebwyr yn gofyn a ydynt yn fodlon ag ymateb y Gweinidog am y pwnc ac, os felly, i gau’r ddeiseb.
5.5P-03-318 Gwasanaethau mamolaeth trawsffiniol
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon a chytunodd i ysgrifennu at y deisebwyr i’w hysbysu bod y Pwyllgor o’r farn na all fynd dim pellach gyda’r ddeiseb hon ac, oni bai y gallant awgrymu ffordd arall ymlaen, y bydd y Pwyllgor yn cau’r ddeiseb.
5.6P-04-366 Cau canolfan ddydd Aberystwyth
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon a chytunodd i ysgrifennu at arweinydd Cyngor Sir Ceredigion yn nodi pryderon y Pwyllgor a meysydd y dylid rhoi blaenoriaeth iddynt. Byddai hyn yn cynnwys adolygu’r gwasanaeth newydd gan gorff allanol, ac mae Arweinydd y Cyngor eisioes wedi croesawu’r syniad.
5.7P-04-369 Deiseb yn erbyn y Llwybr Arfordirol o Gaerdydd i Gasnewydd a thu hwnt
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon.
Datganodd Joyce Watson fuddiant yn y ddieseb fel aelod o’r RSPB.
Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb o ystyried bod yr RSPB o blaid yr asesiadau a’r camau sy’n cael eu cymryd.
5.8P-04-378 Ymestyn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru mewn perthynas â’r ddeiseb hon.
Cytunodd y Pwyllgor i:
Ysgrifennu at y Gweinidog yn amlinellu ei bryderon am y wybodaeth a gafwyd mewn gohebiaeth;
Hysbysu Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd am unrhyw newidiadau i’r sefyllfa;
Gwneud cais am amserlen y Bil Amgylchedd y gallai Cymdeithas Gŵyr fod yn rhan ohoni;
Hysbysu Llywydd a Chadeirydd Cymdeithas Gŵyr am unrhyw gamau a gymerir gan y Pwyllgor.
5.9P-04-360 Deiseb Man Gwan Pen-y-lan
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon.
Gan fod BT wedi cadarnhau mai dyddiad cyflwyno’r gyfnewidfa newydd yw mis Rhagfyr 2012, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.
5.10 P-04-364 Ffibr optig i ardaloedd gwledig
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon. Yn dilyn llythyr y Gweinidog, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.
6. Papur i’w nodi
6.1P-04-341 Gwastraff a Llosgi
Nodwyd y papur.
Diolchodd y Cadeirydd i Theatr y Stiwt am gynnal y cyfarfod, yn ogystal â’r tîm clercio a’r tim ehangach am eu gwaith.
Trawsgrifiad